Mae DesignYO! Creative yn gwmni Dylunio Graffeg a Rheoli Argraffu sy’n cefnogi busnesau a sefydliadau amrywiol eu maint â gwaith dylunio proffesiynol o safon uchel ar gyfer eu brandio, deunydd marchnata, prosiectau, hysbysebu, dogfennau corfforaethol a mwy er mwyn gwella ymgysylltiad defnyddwyr a chleientiaid.
Mae gan Mike Davies, y perchennog a’r Uwch Ddylunydd Graffeg, dros 15 mlynedd o brofiad ac mae wedi gweithio ar filoedd o brosiectau, gan arwain gwasanaethau dylunio yn y gorffennol i: The Ministry of Sound, Fastsigns a Chyngor Sir Caerfyrddin, cyn sefydlu DesignYO! Creative yn 2020.
Rydym yn defnyddio profiad helaeth o greu gwaith celf ar gyfer fformat bach, fformat mawr, gorffeniadau printiedig arbenigol, gweithgynhyrchu, a chynnwys ar-lein ac rydym mewn sefyllfa unigryw i ymgymryd ag amrywiaeth mawr o brosiectau dylunio. Mae hyn yn arwain at waith dylunio rhagorol a chysondeb brandio ynghyd â gwybodaeth weithgynhyrchu helaeth fel bod dyluniadau’n addas ar gyfer y defnydd a
fwriadwyd ac yn rhagori ar ddisgwyliadau.
Yn ogystal â gweithio gyda busnesau a sefydliadau, mae deunyddiau priodas DesignYO! yn arbenigo mewn gwahoddiadau unigryw o safon uchel a brandiau priodas i ddod â storïau caru cyplau yn fyw!
Mae eich busnes, eich prosiect a’ch sefydliad yn bwysig, ac mae DesignYO! ar gael i’ch cefnogi i dyfu, llwyddo ac ymgysylltu trwy ddeunydd gweledol o safon uchel, brandio cryf, a dyluniadau modern sy’n dal llygad pobl.
Bydd DesignYO! Creative bob amser yn darparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau i gefnogi ein cleientiaid.
Cynigiodd Mike wasanaeth rhagorol i ni wrth ddylunio ein Hadroddiad Blynyddol. Roedd y cyfathrebu’n hynod o fuddiol a phrydlon, ac yn ein galluogi i gadw at ein hamserlen, ac rydym yn falch iawn o’r cynnyrch gorffenedig, sydd â dyluniad taclus, proffesiynol ac atyniadol. Byddwn yn sicr yn argymell DesignYO! Creative ar gyfer unrhyw anghenion dylunio graffeg. Diolch i chi!
Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda DesignYO! Creative ar brosiectau amrywiol. Rydw i bob amser yn edrych ymlaen at weld gwaith Mike yn cyrraedd. Mae’n ddylunydd graffeg talentog iawn ac yn ŵr bonheddig.