BRANDIO

Arbenigo mewn brandio proffesiynol o ansawdd uchel, DesignYO! wedi creu a gweithredu brandiau ar gyfer busnesau o bob maint, yn ogystal â sefydliadau cenedlaethol.

Rydym yn cynnig nifer o wahanol becynnau logo a brandio i’ch busnes, yn amrywio o ddylunio logo syml i ganllawiau brand llawn lle mae’r brand i’w weld ym mhob agwedd ar eich busnes ar bapur ac ar-lein.

Rydym yn hoffi dod i adnabod ein cleientiaid a’u busnes. Felly mae’r broses yn dechrau â sgwrs dros y ffôn, drwy gyswllt fideo neu wyneb yn wyneb i ddod i wybod mwy am eich cwmni – beth mae’n ei wneud, ei werthoedd a sut rydych eisiau i’r brand bortreadu eich gwasanaethau. Byddwn yn siarad am liwiau, arddulliau, ffurfdeipiau ac unrhyw beth y byddech yn hoffi ei gynnwys yn y logo ac yn nyluniad y
brand. 

Ar ôl cael y briff bydd DesignYO! yn creu logos enghreifftiol i chi eu hystyried, ac yna’n datblygu’r enghreifftiau yn dilyn eich adborth nes byddwch yn gwbl fodlon â dyluniad terfynol y logo.

Mae dylunio cyson yn hollbwysig wrth adeiladu brand. Gallwn eich helpu â phaletau lliw a ffurfdeipiau sy’n gweithio gyda’ch brand, fel bod eich holl ddeunydd marchnata’n dilyn yr un arddull ac yn creu hunaniaeth y bydd pawb yn ei adnabod.

Os ydych wedi dewis pecyn brandio, byddwn yn dangos i chi sut y bydd y brand yn edrych mewn gwahanol gynnyrch, megis deunydd ysgrifennu, y cyfryngau cymdeithasol, ac arwyddion, er mwyn i chi
allu gweld sut y bydd y brand yn gweithio i’ch busnes chi. 

Rydym yn cefnogi pob un o’n cleientiaid, yn fusnesau newydd a rhai sy’n bodoli’n barod, i gael y brand gorau posibl er mwyn codi ymwybyddiaeth a thyfu.  

DYLUNIO LOGO BRANDIO EICONAU CANLLAWIAU CORFFORAETHOL