RHEOLI ARGRAFFU

Mae gennym dros ddegawd o brofiad yn y diwydiant argraffu, ac rydym yn gofalu am gaffael y deunyddiau cywir, darparu gwasanaeth argraffu a chynhyrchu cystadleuol o’r safon uchaf ar gyfer eich prosiect o fewn eich terfyn amser, a darparu cynnyrch terfynol o’r radd flaenaf bob tro.

Gallwn reoli eich holl ofynion argraffu, gan gynnwys:

  • Cardiau Busnes
  • Pamffledi
  • Taflenni
  • Bwydlenni
  • Arwyddion
  • Decalau finyl
  • Sticeri
  • Baneri
  • Magnetau Cerbydau
  • Hysbysfyrddau
  • Deunydd ar gyfer arddangosfeydd
  • Byrddau Gwerthu
  • Hysbyslenni
  • Baneri
  • Byrddau Hysbysebu

Gan weithio mewn cysylltiad agos â rhwydwaith o gyflenwyr argraffu masnachol a gweithgynhyrchwyr arbenigol rydym yn rheoli eich archeb o’r gwaith dylunio cychwynnol i ddanfon y nwyddau.

Rydym yn ceisio sicrhau bod y broses o archebu unrhyw ddeunydd wedi’i argraffu yn hawdd ac yn ddidrafferth trwy drefnu popeth ar eich rhan, monitro’r broses gynhyrchu a gwirio ansawdd eich archeb er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eitemau o’r ansawdd gorau i arddangos eich dyluniad.

Rydym hefyd yn cynnig gorffeniadau arbenigol i wneud i’r eitemau argraffedig sefyll allan gan gynnwys:

  • Farnais Spot UV
  • Ffoil metelig
  • Llythrennau 3D
  • Byrddau Siâp Penodol

Beth bynnag eich prosiect dylunio ac argraffu mae gan DesignYO! Creative yr wybodaeth i ddarparu cynnyrch o safon bob tro.